1 Samuel 13:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr oedd llifddur i wneuthur min ar y ceibiau, ac ar y cylltyrau, ac ar y picffyrch, ac ar y bwyeill, ac i flaenllymu'r symbylau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd rhaid talu prisiau uchel — 8 gram o arian am hogi swch aradr neu hof, 4 gram o arian am fwyell, a'r un faint am osod pen ar ffon brocio ychen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'r pris oedd deuparth sicl am swch neu gaib, a thraean sicl am hogi'r bwyeill ac am osod swmbwl.