1 Samuel 13:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly yn nydd y rhyfel ni chaed na chleddyf na gwaywffon yn llaw yr un o'r bobl oedd gyda Saul a Jonathan, ond a gaed gyda Saul a Jonathan ei fab.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly pan ddechreuodd y frwydr doedd gan filwyr Saul a Jonathan ddim cleddyfau na gwaywffyn; dim ond Saul ei hun a'i fab Jonathan oedd â rhai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, yn nydd rhyfel, nid oedd gan neb o'r bobl oedd gyda Saul a Jonathan gleddyf na gwaywffon, ond yr oedd rhai gan Saul a'i fab Jonathan.