1 Samuel 13:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jonathan a drawodd sefyllfa y Philistiaid, yr hon oedd yn Geba: a chlybu y Philistiaid hynny. A Saul a ganodd mewn utgorn trwy'r holl dir, gan ddywedyd, Clywed yr Hebreaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Clywodd y Philistiaid fod Jonathan wedi ymosod ar eu garsiwn milwrol yn Geba. Felly dyma Saul yn anfon negeswyr i bob rhan o'r wlad i chwythu'r corn hwrdd a galw pobl i ryfel, a dweud, “Chi Hebreaid, gwrandwch yn astud!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Lladdodd Jonathan lywodraethwr y Philistiaid oedd yn Geba, a chlywodd y Philistiaid fod Saul wedi galw'r holl wlad i ryfel a bod yr Hebreaid mewn gwrthryfel.