1 Samuel 13:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Philistiaid a ymgynullasant i ymladd ag Israel, deng mil ar hugain o gerbydau, a chwe mil o wŷr meirch, a phobl eraill cyn amled â'r tywod sydd ar fin y môr. A hwy a ddaethant i fyny, ac a wersyllasant ym Michmas, o du y dwyrain i Beth-afen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y cyfamser roedd y Philistiaid yn paratoi i ymosod ar Israel. Roedden nhw wedi casglu tair mil o gerbydau rhyfel, chwe mil o farchogion a gormod o filwyr traed i'w cyfrif, ac wedi codi gwersyll yn Michmas i'r dwyrain o Beth-afen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd gan y Philistiaid a ddaeth i ryfela yn erbyn Israel ddeng mil ar hugain o gerbydau, chwe mil o farchogion, a byddin mor niferus 'r tywod ar lan y mr; ac aethant i wersyllu yn Michmas y tu dwyrain i Beth-afen.