1 Samuel 13:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan welodd gwŷr Israel fod yn gyfyng arnynt, (canys gwasgasid ar y bobl,) yna y bobl a ymguddiasant mewn ogofeydd, ac mewn drysni, ac mewn creigiau, ac mewn tyrau, ac mewn pydewau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd byddin Israel mor ddrwg oedd hi arnyn nhw, dyma nhw'n colli pob hyder a mynd i guddio mewn ogofâu, drysni, yn y creigiau ac mewn pydewau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd yr Israeliaid ei bod yn gyfyng arnynt a bod y fyddin wedi ei llethu, aethant i guddio mewn ogofeydd ac agennau, ac yn y creigiau a'r cilfachau a'r tyllau.