1 Samuel 14:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu ddyddgwaith i Jonathan mab Saul ddywedyd wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa'r Philistiaid, yr hon sydd o'r tu hwnt: ond ni fynegodd efe i'w dad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Un diwrnod dyma Jonathan, mab Saul, yn dweud wrth y gwas oedd yn cario ei arfau, “Tyrd, gad i ni groesi drosodd i wersyll y Philistiaid.” Ond ddwedodd e ddim am y peth wrth ei dad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Un diwrnod, heb yngan gair wrth ei dad, dywedodd Jonathan fab Saul wrth y gwas oedd yn cludo'i arfau, "Tyrd, awn drosodd at wylwyr y Philistiaid sydd acw gyferbyn ni."