1 Samuel 14:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwŷr yr amddiffynfa a atebasant Jonathan, a'r hwn oedd yn dwyn ei arfau, ac a ddywedasant, Deuwch i fyny atom ni, ac ni a ddangoswn beth i chwi. A dywedodd Jonathan wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau, Tyred i fyny ar fy ôl: canys yr ARGLWYDD a'u rhoddes hwynt yn llaw Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwaeddodd y dynion oedd yn gwylio ar Jonathan a'i gludwr arfau, “Dewch i fyny yma i ni ddysgu gwers i chi!” A dyma Jonathan yn dweud wrth ei was, “Dilyn fi, achos mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i Israel.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A gwaeddodd dynion yr wyliadwriaeth ar Jonathan a'i gludydd arfau, a dweud, "Dewch i fyny atom, i ni gael dangos rhywbeth i chwi." Dywedodd Jonathan wrth ei gludydd arfau, "Tyrd i fyny ar f'l i, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi yn llaw Israel."