1 Samuel 14:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd Saul wrth y bobl oedd gydag ef, Cyfrifwch yn awr, ac edrychwch pwy a aeth oddi wrthym ni. A phan gyfrifasant, wele, Jonathan a chludydd ei arfau nid oeddynt yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Galwch y milwyr at ei gilydd i weld pwy sydd ar goll,” meddai Saul. A pan wnaethon nhw hynny dyma nhw'n ffeindio fod Jonathan a'r gwas oedd yn cario'i arfau ddim yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Saul wrth y bobl oedd gydag ef, "Galwch y rhestr i weld pwy sydd wedi mynd o'n plith."