1 Samuel 14:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly yr achubodd yr ARGLWYDD Israel y dydd hwnnw; a'r ymladd a aeth drosodd i Beth-afen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r brwydro yn lledu tu draw i Beth-afen. Yr ARGLWYDD wnaeth achub Israel y diwrnod hwnnw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y dydd hwnnw gwaredodd yr ARGLWYDD Israel, ac ymledodd y frwydr tu hwnt i Beth-afen.