1 Samuel 14:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond Jonathan ni chlywsai pan dyngedasai ei dad ef y bobl: am hynny efe a estynnodd flaen y wialen oedd yn ei law, ac a'i gwlychodd yn nil y mêl, ac a drodd ei law at ei enau; a'i lygaid a oleuasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond doedd Jonathan ddim wedi clywed ei dad yn gwneud i bawb dyngu'r llw. Felly dyma fe'n estyn blaen ei ffon i'r mêl, ac yna ei rhoi yn ei geg. Ac roedd wedi ei adfywio'n llwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oedd Jonathan wedi clywed ei dad yn gwneud i'r bobl gymryd y llw, ac estynnodd y ffon oedd yn ei law a tharo'i blaen yn y diliau ml, ac yna'i chodi at ei geg; a gloywodd ei lygaid.