1 Samuel 14:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna un o'r bobl a atebodd, ac a ddywedodd, Gan dynghedu y tynghedodd dy dad y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd heddiw. A'r bobl oedd luddedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma un o'r dynion yn dweud wrtho, “Gwnaeth dy dad i'r milwyr dyngu llw, a dweud, ‘Melltith ar unrhyw un sy'n bwyta unrhyw fwyd heddiw.’ Dyna pam mae'r dynion i gyd yn teimlo mor wan.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd un o'r bobl wrtho, "Y mae dy dad wedi gosod llw caeth ar y bobl, ac wedi dweud, 'Melltigedig yw pob un sy'n bwyta tamaid heddiw'. Ac yr oedd y bobl yn lluddedig."