1 Samuel 14:32 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bobl a ruthrodd at yr anrhaith, ac a gymerasant ddefaid, a gwartheg, a lloi, ac a'u lladdasant ar y ddaear: a'r bobl a'u bwytaodd gyda'r gwaed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n rhuthro ar yr ysbail a chymryd defaid, gwartheg a lloi. Yna eu lladd nhw yn y fan a'r lle, a bwyta'r cig, y gwaed a'r cwbl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna rhuthrodd y bobl ar yr ysbail a chymryd defaid ac ychen a lloi, a'u lladd ar y ddaear, a'u bwyta heb eu gwaedu.