1 Samuel 14:33 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y mynegasant hwy i Saul, gan ddywedyd, Wele, y bobl sydd yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, gan fwyta ynghyd â'r gwaed. Ac efe a ddywedodd, Troseddasoch: treiglwch ataf fi heddiw faen mawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd rhywun wrth Saul fod y bobl wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD drwy fwyta gwaed. A dyma Saul yn dweud, “Dych chi wedi bod yn anffyddlon. Rholiwch garreg fawr yma ata i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddywedwyd wrth Saul, "Edrych, y mae'r bobl yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD wrth fwyta cig heb ei waedu", dywedodd yntau, "Yr ydych wedi troseddu; rhowliwch yma garreg fawr ar unwaith."