1 Samuel 14:34 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd Saul hefyd, Ymwasgerwch ymysg y bobl, a dywedwch wrthynt, Dygwch ataf fi bob un ei ych, a phob un ei lwdn dafad, a lleddwch hwynt yma, a bwytewch; ac na phechwch yn erbyn yr ARGLWYDD, gan fwyta ynghyd â'r gwaed. A'r bobl oll a ddygasant bob un ei ych yn ei law y noswaith honno, ac a'u lladdasant yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna ewch at y dynion a dweud wrthyn nhw fod rhaid i bawb ddod â'i fustach a'i ddafad i'r fan yma i'w ladd cyn ei fwyta. Dwedwch wrthyn nhw am beidio pechu yn erbyn yr ARGLWYDD trwy fwyta'r gwaed.” Felly'r noson honno, dyma pawb yn mynd â'i anifail yno i'w ladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Saul, "Ewch ar frys trwy ganol y bobl a dywedwch wrthynt, 'Doed pob un 'i ych neu ei ddafad ataf fi, a'u lladd yma a'u bwyta, rhag i chwi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD trwy fwyta cig heb ei waedu'." Daeth pob un o'r bobl 'i ych gydag ef y noson honno, i'w ladd yno.