1 Samuel 14:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhwng y bylchau, lle ceisiodd Jonathan fyned drosodd at amddiffynfa'r Philistiaid, yr oedd craig serth o'r naill du i'r bwlch, a chraig serth o'r tu arall i'r bwlch; ac enw y naill oedd Boses, ac enw y llall Sene.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd clogwyni uchel bob ochr i'r bwlch roedd Jonathan yn anelu ato i fynd at wersyll y Philistiaid. Enwau'r clogwyni oedd Botsets a Senne.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y bwlch lle'r oedd Jonathan yn ceisio croesi tuag at wylwyr y Philistiaid yr oedd clogwyn o graig ar y naill ochr a'r llall; Boses oedd enw'r naill a Senne oedd enw'r llall.