1 Samuel 14:43 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd Saul wrth Jonathan, Mynega i mi beth a wnaethost. A Jonathan a fynegodd iddo, ac a ddywedodd, Gan archwaethu yr archwaethais ychydig o fêl ar flaen y wialen oedd yn fy llaw; ac wele, a fyddaf fi farw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Saul yn gofyn i Jonathan, “Dywed wrtho i be wnest ti.” A dyma Jonathan yn ateb, “Blasu mymryn o fêl ar flaen fy ffon. Dyma fi, oes rhaid i mi farw?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Saul wrth Jonathan, "Dywed wrthyf beth a wnaethost." Eglurodd Jonathan iddo, a dweud, "Dim ond profi mymryn o fl ar flaen y ffon oedd yn fy llaw. Dyma fi, rwy'n barod i farw."