1 Samuel 14:45 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd y bobl wrth Saul, A leddir Jonathan, yr hwn a wnaeth yr ymwared mawr hyn yn Israel? Na ato DUW: fel mai byw yr ARGLWYDD, ni syrth un o wallt ei ben ef i'r ddaear; canys gyda DUW y gweithiodd efe heddiw. A'r bobl a waredasant Jonathan, fel na laddwyd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r milwyr yn ateb, “Pam ddylai Jonathan farw? Mae e wedi ennill buddugoliaeth fawr i Israel heddiw. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw ddylai dim byd ddigwydd iddo. Roedd e'n gweithio gyda Duw heddiw.” Felly dyma'r milwyr yn achub Jonathan, a chafodd fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dyma'r bobl yn dweud wrth Saul, "A gaiff Jonathan farw, ac yntau wedi ennill y fuddugoliaeth fawr hon i Israel? Pell y bo! Cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni chaiff blewyn o wallt ei ben syrthio i'r llawr. Gyda Duw y gweithiodd ef y diwrnod hwn." Prynodd y bobl ryddid Jonathan, ac ni fu farw.