1 Samuel 14:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Jonathan wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa'r rhai dienwaededig hyn; nid hwyrach y gweithia yr ARGLWYDD gyda ni: canys nid oes rwystr i'r ARGLWYDD waredu trwy lawer neu trwy ychydig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Jonathan yn dweud wrth y gwas oedd yn cario ei arfau, “Tyrd, gad i ni fynd draw i wersyll y paganiaid acw. Falle bydd yr ARGLWYDD yn ein helpu ni. Mae'r un mor hawdd iddo achub hefo criw bach ag ydy hi gyda byddin fawr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Jonathan wrth y gwas oedd yn cludo'i arfau, "Tyrd, awn drosodd at y gwylwyr dienwaededig acw; efallai y bydd yr ARGLWYDD yn gweithio o'n plaid, oherwydd nid oes dim i rwystro'r ARGLWYDD rhag gwaredu trwy lawer neu drwy ychydig."