1 Samuel 15:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Edifar yw gennyf osod Saul yn frenin: canys efe a ddychwelodd oddi ar fy ôl i, ac ni chyflawnodd fy ngeiriau. A bu ddrwg gan Samuel; ac efe a lefodd ar yr ARGLWYDD ar hyd y nos.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i'n sori mod i wedi gwneud Saul yn frenin. Mae e wedi troi cefn arna i, a dydy e ddim yn gwneud beth dw i'n ddweud.” Roedd Samuel wedi ypsetio'n lân, a bu'n crefu ar yr ARGLWYDD am y peth drwy'r nos.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Y mae'n edifar gennyf fy mod wedi gwneud Saul yn frenin, oherwydd y mae wedi cefnu arnaf a heb gadw fy ngorchymyn." Digiodd Samuel, a galwodd ar yr ARGLWYDD drwy'r nos.