1 Samuel 15:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd Samuel wrth Saul, Aros, a mi a fynegaf i ti yr hyn a lefarodd yr ARGLWYDD wrthyf fi neithiwr. Yntau a ddywedodd wrtho, Llefara.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Samuel yn dweud wrth Saul, “Taw, i mi gael dweud wrthot ti beth ddwedodd Duw wrtho i neithiwr.” “Dywed wrtho i,” meddai Saul.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Samuel wrth Saul, "Taw, imi gael dweud wrthyt beth a ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf neithiwr." Meddai yntau wrtho, "Dywed."