1 Samuel 15:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Samuel a ddywedodd, A yw ewyllys yr ARGLWYDD ar boethoffrymau, neu ebyrth, megis ar wrando ar lais yr ARGLWYDD? Wele, gwrando sydd well nag aberth, ac ufuddhau na braster hyrddod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Samuel yn dweud, “Beth sy'n rhoi mwya o bleser i'r ARGLWYDD? Aberth ac offrwm i'w losgi, neu wneud beth mae e'n ddweud? Mae gwrando yn well nag aberth; mae talu sylw yn well na brasder hyrddod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Samuel: "A oes gan yr ARGLWYDD bleser mewn offrymau ac ebyrth, fel mewn gwrando ar lais yr ARGLWYDD? Gwell gwrando nag aberth, ac ufudd-dod na braster hyrddod.