1 Samuel 15:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Pechais: canys troseddais air yr ARGLWYDD, a'th eiriau dithau; oherwydd i mi ofni y bobl, a gwrando ar eu llais hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Saul yn cyfaddef i Samuel, “Dw i wedi pechu. Dw i wedi bod yn anufudd i'r ARGLWYDD a gwrthod gwrando arnat ti. Roedd gen i ofn y milwyr, a dyma fi'n gwneud beth oedden nhw eisiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Saul wrth Samuel, "Yr wyf wedi pechu, oblegid yr wyf wedi torri gorchymyn yr ARGLWYDD a'th air dithau, am imi ofni'r bobl a gwrando ar eu llais.