1 Samuel 15:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd Samuel, Cyrchwch ataf fi Agag brenin yr Amaleciaid. Ac Agag a ddaeth ato ef yn hoyw. Ac Agag a ddywedodd, Chwerwder marwolaeth yn ddiau a aeth ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Samuel yn dweud, “Dewch ag Agag, brenin yr Amaleciaid, ata i.” Daeth Agag ato yn ansicr a nerfus, gan feddwl, “Wnân nhw ddim fy lladd i bellach, siawns?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Samuel, "Dewch ag Agag brenin Amalec ataf fi." Daeth Agag ato'n anfoddog, a dweud, "Fe giliodd chwerwder marwolaeth."