1 Samuel 15:33 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Samuel a ddywedodd, Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fam dithau ymysg gwragedd. A Samuel a ddarniodd Agag gerbron yr ARGLWYDD yn Gilgal.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Samuel yn dweud, “Fel gwnaeth dy gleddyf di adael gwragedd heb blant, bydd dy fam di yn galaru nawr.” A dyma fe'n hacio Agag i farwolaeth o flaen yr ARGLWYDD yn Gilgal.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedodd Samuel: "Fel y gwnaeth dy gleddyf di wragedd yn ddi-blant, felly bydd dy fam dithau'n ddi-blant ymysg gwragedd." Yna darniodd Samuel Agag gerbron yr ARGLWYDD yn Gilgal.