1 Samuel 15:35 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid ymwelodd Samuel mwyach â Saul hyd ddydd ei farwolaeth; ond Samuel a alarodd am Saul: ac edifar fu gan yr ARGLWYDD osod Saul yn frenin ar Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaeth Samuel ddim gweld Saul byth wedyn. Ond roedd yn dal i deimlo mor drist amdano. Roedd yr ARGLWYDD, ar y llaw arall, yn sori ei fod wedi gwneud Saul yn frenin ar Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni welodd Samuel mo Saul byth wedyn, hyd ddydd ei farw, ond gofidiodd am Saul. Yr oedd yn edifar gan yr ARGLWYDD ei fod wedi gwneud Saul yn frenin ar Israel.