1 Samuel 15:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd Saul hefyd wrth y Ceneaid, Cerddwch, ciliwch, ewch i waered o fysg yr Amaleciaid; rhag i mi eich distrywio chwi gyda hwynt: herwydd ti a wnaethost drugaredd â holl feibion Israel, pan ddaethant i fyny o'r Aifft. A'r Ceneaid a ymadawsant o fysg yr Amaleciaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn anfonodd neges at y Ceneaid, “Ewch i ffwrdd o'r ardal. Peidiwch aros gyda'r Amaleciaid, rhag i chi gael eich difa gyda nhw. Buoch chi'n garedig wrth bobl Israel pan oedden nhw'n dod o'r Aifft. ” Felly dyma'r Ceneaid yn gadael yr Amaleciaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud wrth y Ceneaid, "Ewch i ffwrdd, cefnwch ar yr Amaleciaid, rhag imi eich distrywio chwi gyda hwy; oherwydd buoch chwi'n garedig wrth yr holl Israeliaid pan oeddent yn dod i fyny o'r Aifft." Aeth y Ceneaid ymaith oddi wrth yr Amaleciaid;