1 Samuel 16:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Samuel, Pa hyd y galeri di am Saul, gan i mi ei fwrw ef ymaith o deyrnasu ar Israel? Llanw dy gorn ag olew, a dos; mi a'th anfonaf di at Jesse y Bethlehemiad: canys ymysg ei feibion ef y darperais i mi frenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Samuel, “Am faint wyt ti'n mynd i ddal i deimlo'n drist am Saul? Dw i wedi ei wrthod e fel brenin ar Israel. Llenwa gorn gydag olew olewydd a dos i Bethlehem at ddyn o'r enw Jesse. Dw i wedi dewis un o'i feibion e i fod yn frenin i mi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, "Am ba hyd yr wyt yn mynd i ofidio am Saul, a minnau wedi ei wrthod fel brenin ar Israel? Llanw dy gorn ag olew a dos; yr wyf yn dy anfon at Jesse o Fethlehem, oherwydd yr wyf wedi gweld brenin imi ymysg ei feibion ef."