1 Samuel 16:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd Samuel hefyd wrth Jesse, Ai dyma dy holl blant? Yntau a ddywedodd, Yr ieuangaf eto sydd yn ôl; ac wele, mae efe yn bugeilio'r defaid. A dywedodd Samuel wrth Jesse, Danfon, a chyrch ef: canys nid eisteddwn ni i lawr nes ei ddyfod ef yma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Samuel yn holi Jesse, “Ai dyma dy fechgyn di i gyd?” “Na,” meddai Jesse, “Mae'r lleiaf ar ôl. Mae e'n gofalu am y defaid.” “Anfon rhywun i'w nôl e,” meddai Samuel. “Wnawn ni ddim byd arall nes bydd e wedi cyrraedd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gofynnodd Samuel i Jesse, "Ai dyma'r bechgyn i gyd?" Atebodd yntau, "Y mae'r ieuengaf ar l, yn bugeilio'r defaid." Ac meddai Samuel wrth Jesse, "Anfon amdano; nid awn ni oddi yma nes iddo ef ddod."