1 Samuel 16:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a anfonodd, ac a'i cyrchodd ef. Ac efe oedd writgoch, a theg yr olwg, a hardd o wedd. A dywedodd yr ARGLWYDD, Cyfod, eneinia ef: canys dyma efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Jesse'n anfon amdano. Roedd yn fachgen iach yr olwg gyda llygaid hardd — bachgen golygus iawn. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Tyrd! Hwn ydy e! Eneinia fe â'r olew.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly anfonodd i'w gyrchu. Yr oedd yn writgoch, a chanddo lygaid gloyw ac yn hardd yr olwg. A dywedodd yr ARGLWYDD, "Tyrd, eneinia ef, oherwydd hwn ydyw."