1 Samuel 16:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac un o'r llanciau a atebodd, ac a ddywedodd, Wele, gwelais fab i Jesse y Bethlehemiad, yn medru canu, ac yn rymus o nerth, ac yn rhyfelwr, yn ddoeth o ymadrodd hefyd, ac yn ŵr lluniaidd; a'r ARGLWYDD sydd gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma un o'r dynion ifanc yn dweud, “Dw i'n gwybod am fab i Jesse o Fethlehem sy'n dda ar y delyn. Mae e'n filwr dewr, yn siaradwr da, mae'n fachgen golygus ac mae'r ARGLWYDD gydag e.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd un o'r gweision, "Mi welais fab i Jesse o Fethlehem, sy'n medru canu telyn, ac y mae'n u373?r dewr ac yn rhyfelwr; y mae'n siarad yn ddeallus ac yn un golygus hefyd, ac y mae'r ARGLWYDD gydag ef."