1 Samuel 16:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan fyddai y drwg ysbryd oddi wrth DDUW ar Saul, y cymerai Dafydd delyn, ac y canai â'i ddwylo; a byddai esmwythdra i Saul; a da oedd hynny iddo, a'r ysbryd drwg a giliai oddi wrtho.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, pan fyddai Duw yn anfon ysbryd drwg ar Saul, byddai Dafydd yn nôl ei delyn a'i chanu. Byddai hynny'n tawelu Saul a gwneud iddo deimlo'n well. Yna byddai'r ysbryd drwg yn gadael llonydd iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pryd bynnag y byddai'r ysbryd drwg yn blino Saul, byddai Dafydd yn cymryd ei delyn ac yn ei chanu; rhoddai hynny esmwythd i Saul a'i wella, fel bod yr ysbryd drwg yn cilio oddi wrtho.