1 Samuel 16:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwnaeth Samuel yr hyn a archasai yr ARGLWYDD, ac a ddaeth i Bethlehem. A henuriaid y ddinas a ddychrynasant wrth gyfarfod ag ef; ac a ddywedasant, Ai heddychlon dy ddyfodiad?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnaeth Samuel fel roedd Duw wedi dweud, a mynd i Fethlehem. Ond roedd arweinwyr y dre yn nerfus iawn pan welon nhw e. Dyma nhw'n gofyn iddo, “Wyt ti'n dod yn heddychlon?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth Samuel fel y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, a mynd i Fethlehem. Pan ddaeth henuriaid y dref yn gynhyrfus i'w gyfarfod a gofyn, "Ai mewn heddwch y daethost?"