1 Samuel 17:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Dafydd hwn oedd fab i Effratëwr o Bethlehem Jwda, a'i enw Jesse; ac iddo ef yr oedd wyth o feibion: a'r gŵr yn nyddiau Saul a âi yn hynafgwr ymysg gwŷr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Dafydd yn fab i Jesse o deulu Effratha, oedd yn byw yn Bethlehem yn Jwda. Roedd gan Jesse wyth mab, a pan oedd Saul yn frenin roedd e'n ddyn mewn oed a parch mawr iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Dafydd yn fab i Effratead o Fethlehem Jwda. Jesse oedd enw hwnnw, ac yr oedd ganddo wyth mab, ac erbyn dyddiau Saul yr oedd yn hen iawn.