1 Samuel 17:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thri mab hynaf Jesse a aethant ac a ddilynasant ar ôl Saul i'r rhyfel: ac enw ei dri mab ef, y rhai a aethant i'r rhyfel, oedd Eliab y cyntaf-anedig, ac Abinadab yr ail, a Samma y trydydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd ei dri mab hynaf — Eliab, Abinadab a Shamma — wedi dilyn Saul i'r rhyfel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ei dri mab hynaf wedi dilyn Saul i'r rhyfel. Enwau'r tri o'i feibion a aeth i'r rhyfel oedd Eliab yr hynaf, Abinadab yr ail, a Samma y trydydd;