1 Samuel 17:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a adawodd y mud oddi wrtho dan law ceidwad y dodrefn, ac a redodd i'r llu, ac a ddaeth, ac a gyfarchodd well i'w frodyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Dafydd yn gadael y pac oedd ganddo gyda'r swyddog cyfarpar, a rhedeg i ganol y rhengoedd at ei frodyr i holi eu hanes.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gadawodd Dafydd ei bac gyda gofalwr y gwersyll, a rhedeg i'r rheng a mynd i ofyn sut yr oedd ei frodyr.