1 Samuel 17:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thra yr oedd efe yn ymddiddan â hwynt, wele y gŵr oedd yn sefyll rhwng y ddeulu, yn dyfod i fyny o fyddinoedd y Philistiaid, Goleiath y Philistiad o Gath wrth ei enw, ac efe a ddywedodd yr un fath eiriau, fel y clybu Dafydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra roedd e'n siarad â nhw, dyma Goliath (y Philistiad o Gath) yn dod allan o rengoedd y Philistiaid, a dechrau bygwth yn ôl ei arfer. A clywodd Dafydd e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oedd yn ymddiddan hwy, dyna'r heriwr o'r enw Goliath, y Philistiad o Gath, yn dod i fyny o rengoedd y Philistiaid ac yn llefaru yng nghlyw Dafydd yr un geiriau ag o'r blaen.