1 Samuel 17:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a lefarodd wrth y gwŷr oedd yn sefyll yn ei ymyl, gan ddywedyd, Beth a wneir i'r gŵr a laddo y Philistiad hwn, ac a dynno ymaith y gwaradwydd oddi ar Israel? canys pwy yw'r Philistiad dienwaededig hwn, pan waradwyddai efe fyddinoedd y DUW byw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Dafydd yn holi'r dynion o'i gwmpas, “Be fydd y wobr i'r dyn sy'n lladd y Philistiad yma, ac yn stopio'r sarhau yma ar Israel? Pwy mae'r pagan yma o Philistiad yn meddwl ydy e, yn herio byddin y Duw byw?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gofynnodd Dafydd i'r dynion oedd yn sefyll o'i gwmpas, "Beth a wneir i'r sawl fydd yn lladd y Philistiad acw, ac yn symud y sarhad oddi ar Israel? Oherwydd pwy yw'r Philistiad dienwaededig hwn, ei fod yn herio lluoedd y Duw byw?"