1 Samuel 17:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Eliab, ei frawd hynaf, a'i clybu pan oedd efe yn ymddiddan â'r gwŷr: a dicter Eliab a enynnodd yn erbyn Dafydd; ac efe a ddywedodd, Paham y daethost i waered yma? a chyda phwy y gadewaist yr ychydig ddefaid hynny yn yr anialwch? Myfi a adwaen dy falchder di, a drygioni dy galon: canys i weled y rhyfel y daethost ti i waered.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Eliab, ei frawd hynaf, yn clywed Dafydd yn siarad â'r dynion o'i gwmpas. Roedd wedi gwylltio gyda Dafydd ac meddai, “Pam ddest ti i lawr yma? Pwy sy'n gofalu am yr ychydig ddefaid yna yn yr anialwch i ti? Dw i'n dy nabod di y cenau drwg! Dim ond wedi dod i lawr i weld y frwydr wyt ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywodd ei frawd hynaf Eliab ef yn siarad 'r dynion, a chollodd ei dymer Dafydd a dweud, "Pam y daethost ti i lawr yma? Yng ngofal pwy y gadewaist yr ychydig ddefaid yna yn y diffeithwch? Mi wn dy hyfdra a'th fwriadau drwg er mwyn cael gweld y frwydr y daethost ti draw yma."