1 Samuel 17:37 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd Dafydd hefyd, Yr ARGLWYDD, yr hwn a'm hachubodd i o grafanc y llew, ac o balf yr arth, efe a'm hachub i o law y Philistiad hwn. A dywedodd Saul wrth Dafydd, Dos, a'r ARGLWYDD fyddo gyda thi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr ARGLWYDD, wnaeth fy achub i rhag y llew a'r arth, yn fy achub i o afael y Philistiad yma hefyd!” Felly dyma Saul yn dweud, “Iawn, dos di. A'r ARGLWYDD fo gyda ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ychwanegodd Dafydd, "Bydd yr ARGLWYDD a'm gwaredodd o afael y llew a'r arth yn sicr o'm hachub o afael y Philistiad hwn hefyd." Dywedodd Saul, "Dos, a bydded yr ARGLWYDD gyda thi."