1 Samuel 17:46 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y dydd hwn y dyry yr ARGLWYDD dydi yn fy llaw i, a mi a'th drawaf di, ac a gymeraf ymaith dy ben oddi arnat; ac a roddaf gelanedd gwersyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd, ac i fwystfilod y ddaear; fel y gwypo yr holl ddaear fod DUW yn Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Heddiw bydd yr ARGLWYDD yn dy roi di yn fy llaw i. Dw i'n mynd i dy ladd di a torri dy ben di i ffwrdd! Cyrff byddin y Philistiaid fydd yn fwyd i'r adar a'r anifeiliaid gwylltion! Bydd y wlad i gyd yn cael gwybod heddiw fod gan Israel Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y dydd hwn bydd yr ARGLWYDD yn dy roi yn fy llaw; lladdaf di a thorri dy ben i ffwrdd, a rhoi celanedd llu'r Philistiaid heddiw i adar yr awyr a bwystfilod y ddaear, er mwyn i'r byd i gyd wybod fod Duw gan Israel,