1 Samuel 17:49 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a estynnodd ei law i'r god, ac a gymerth oddi yno garreg, ac a daflodd, ac a drawodd y Philistiad yn ei dalcen; a'r garreg a soddodd yn ei dalcen ef: ac efe a syrthiodd i lawr ar ei wyneb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhoddodd ei law yn ei fag, cymryd carreg allan a'i hyrddio at y Philistiad gyda'i ffon dafl. Tarodd y garreg Goliath ar ei dalcen a suddo i mewn nes iddo syrthio ar ei wyneb ar lawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
rhoddodd ei law yn y bag a chymryd carreg allan a'i hyrddio, a tharo'r Philistiad yn ei dalcen nes bod y garreg yn suddo i'w dalcen; syrthiodd yntau ar ei wyneb i'r llawr.