1 Samuel 17:51 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y rhedodd Dafydd, ac a safodd ar y Philistiad, ac a gymerth ei gleddyf ef, ac a'i tynnodd o'r wain, ac a'i lladdodd ef, ac a dorrodd ei ben ef ag ef. A phan welodd y Philistiaid farw o'u cawr hwynt hwy a ffoesant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhedodd Dafydd a sefyll uwch ei ben. Wedyn dyma fe'n tynnu cleddyf y Philistiad allan o'r wain, ei ladd, a torri ei ben i ffwrdd. Pan welodd y Philistiaid fod eu harwr wedi ei ladd, dyma nhw'n ffoi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna rhedodd Dafydd a sefyll uwchben y Philistiad; cydiodd yn ei gleddyf ef a'i dynnu o'r wain, a rhoi'r ergyd olaf iddo a thorri ei ben i ffwrdd. Pan welodd y Philistiaid fod eu harwr yn farw, ffoesant;