1 Samuel 17:55 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd Saul Dafydd yn myned i gyfarfod â'r Philistiad, efe a ddywedodd wrth Abner, tywysog y filwriaeth, Mab i bwy yw y llanc hwn, Abner? Ac Abner a ddywedodd, Fel y mae yn fyw dy enaid, O frenin, nis gwn i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd Saul Dafydd yn mynd allan i gyfarfod y Philistiad, gofynnodd i Abner, capten y fyddin, “Mab i bwy ydy'r bachgen acw, Abner?” “Dw i wir ddim yn gwybod, syr,” atebodd Abner.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd Saul Ddafydd yn mynd allan i gyfarfod y Philistiad, gofynnodd i Abner, capten ei lu, "Mab i bwy yw'r bachgen acw, Abner?" Atebodd Abner, "Cyn wired 'th fod yn fyw, O frenin, ni wn i ddim."