1 Samuel 17:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a safodd, ac a waeddodd ar fyddinoedd Israel, ac a ddywedodd wrthynt, I ba beth y deuwch i drefnu eich byddinoedd? Onid ydwyf fi Philistiad, a chwithau yn weision i Saul? dewiswch i chwi ŵr, i ddyfod i waered ataf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe'n sefyll a gweiddi ar fyddin Israel, “Pam ydych chi'n paratoi i ryfela? Philistiad ydw i, a dych chi'n weision i Saul. Dewiswch un dyn i ddod i lawr yma i ymladd hefo fi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Safodd Goliath a gweiddi ar rengoedd Israel a dweud wrthynt, "Pam y dewch allan yn rhengoedd i frwydro? Onid Philistiad wyf fi, a chwithau'n weision i Saul? Dewiswch un ohonoch i ddod i lawr ataf fi.