1 Samuel 18:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Saul, Rhoddaf hi iddo ef, fel y byddo hi iddo yn fagl, ac y byddo llaw y Philistiaid yn ei erbyn ef. Felly Saul a ddywedodd wrth Dafydd, Trwy un o'r ddwy y byddi fab yng nghyfraith i mi heddiw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddyliodd, “Gwna i ei rhoi hi i Dafydd, a bydd hi fel trap iddo, wedyn bydd e'n cael ei ladd gan y Philistiaid.” Felly dyma fe'n dweud wrth Dafydd am yr ail waith, “Cei di fod yn fab-yng-nghyfraith i mi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddyliodd Saul, "Fe'i rhoddaf hi iddo; bydd hi'n fagl iddo, er mwyn i law y Philistiaid ei daro." A dywedodd Saul wrth Ddafydd am yr eildro, "Yn awr cei fod yn fab-yng-nghyfraith imi."