1 Samuel 18:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y cyfododd Dafydd, ac efe a aeth, a'i wŷr, ac a drawodd ddau cannwr o'r Philistiaid: a Dafydd a ddygodd eu blaengrwyn hwynt, a hwy a'u cwbl dalasant i'r brenin, i ymgyfathrachu ohono ef â'r brenin. A Saul a roddodd Michal ei ferch yn wraig iddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dyma Dafydd a'i filwyr yn mynd allan ac yn ymosod ar y Philistiaid a lladd dau gant ohonyn nhw. Daeth â'r blaengroen oddi ar bidyn pob un ohonyn nhw, a'u rhoi i'r brenin yn dâl am gael priodi ei ferch. Felly dyma Saul yn gadael iddo briodi Michal ei ferch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyn bod yr amser wedi dod i ben, cychwynnodd Dafydd allan gyda'i wu375?r, ac aethant a lladd dau gant o ddynion y Philistiaid. Dygodd Dafydd eu blaengrwyn a'u cyflwyno i gyd i'r brenin, er mwyn cael priodi merch y brenin; a rhoddodd Saul ei ferch Michal yn wraig iddo.