1 Samuel 18:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a aeth i ba le bynnag yr anfonodd Saul ef, ac a ymddug yn ddoeth. A Saul a'i gosododd ef ar y rhyfelwyr: ac efe oedd gymeradwy yng ngolwg yr holl bobl, ac yng ngolwg gweision Saul hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Dafydd yn llwyddo beth bynnag roedd Saul yn gofyn iddo'i wneud. Felly dyma Saul yn ei wneud yn gapten ar ei fyddin. Ac roedd hynny'n plesio pawb, gan gynnwys swyddogion Saul.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Llwyddodd Dafydd ym mhob gorchwyl a roddai Saul iddo, a gosododd Saul ef yn bennaeth ei filwyr, er boddhad i bawb, gan gynnwys swyddogion Saul.