1 Samuel 18:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, wrth ddyfod ohonynt, pan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, ddyfod o'r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel, dan ganu a dawnsio, i gyfarfod â'r brenin Saul â thympanau, â gorfoledd, ac ag offer cerdd dannau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan aeth y fyddin adre ar ôl i Dafydd ladd y Philistiad, roedd merched pob tref yn dod allan i groesawu'r brenin Saul. Roedden nhw'n canu a dawnsio'n llawen i gyfeiliant offerynnau taro a llinynnol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Un tro yr oeddent ar eu ffordd adref, a Dafydd yn dychwelyd ar l taro'r Philistiaid, a daeth y gwragedd allan ym mhob tref yn Israel i edrych; aeth y merched dawnsio i gyfarfod y Brenin Saul gyda thympanau a molawdau a thrionglau,