1 Samuel 18:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A digiodd Saul yn ddirfawr, a'r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef; ac efe a ddywedodd, Rhoddasant i Dafydd fyrddiwn, ac i mi y rhoddasant filoedd: beth mwy a roddent iddo ef, ond y frenhiniaeth?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd Saul ddim yn hapus o gwbl am y peth. Roedd e wedi gwylltio. “Maen nhw'n rhoi degau o filoedd i Dafydd, a dim ond miloedd i mi,” meddai. “Peth nesa, byddan nhw eisiau ei wneud e'n frenin!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Digiodd Saul yn arw, a chafodd ei gythruddo gan y dywediad. Meddai, "Maent yn rhoi myrddiynau i Ddafydd, a dim ond miloedd i mi; beth yn rhagor sydd iddo ond y frenhiniaeth?"