1 Samuel 19:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Saul hefyd a anfonodd genhadau i dŷ Dafydd, i'w wylied ef, ac i'w ladd ef y bore: a Michal ei wraig a fynegodd i Dafydd, gan ddywedyd, Onid achubi dy einioes heno, yfory y'th leddir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dyma Saul yn anfon dynion i wylio tŷ Dafydd er mwyn ei ladd yn y bore. Ond roedd Michal, gwraig Dafydd, wedi dweud wrtho, “Os gwnei di ddim dianc am dy fywyd heno, byddi wedi marw fory.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y noson honno anfonodd Saul negeswyr i gartref Dafydd i'w wylio er mwyn ei ladd yn y bore. Ond yr oedd Michal gwraig Dafydd wedi dweud wrtho, "Os na fyddi'n dianc heno am d'einioes, yfory byddi'n farw."